#

 

Y Pwyllgor Deisebau | 10 Mawrth 2020
 Petitions Committee | 10 March 2020
 
 
 ,Deiseb: Gwrthdroi’r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru
 
 
  

 

 

 

 


Papur Briffio:

Rhif y Ddeiseb: P-05-944

Teitl y Ddeiseb: Gwrthdroi’r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Geiriad y ddeiseb:

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cymudwyr ar hyd Arfordir Gogledd Cymru wedi cael gostyngiad mewn gwasanaethau trenau yn ystod oriau brig er eu bod yn talu rhai o'r prisiau tocynnau trên mwyaf (o fesur y teithiau fesul milltir) yn y DU. 

Mae'r toriadau hyn i wasanaethau eisoes wedi arwain at ostyngiad yn nifer y teithwyr sy'n defnyddio gorsafoedd trenau Gogledd-ddwyrain Cymru, gyda mwy a mwy o gymudwyr yn gorfod gyrru, gan ychwanegu at y tagfeydd ar yr A55. 

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) bellach yn bwriadu torri'r unig wasanaeth trên oriau brig gyda'r hwyr rhwng Bangor a Bae Colwyn, y Rhyl, Prestatyn a'r Fflint, sef y gwasanaeth 17:16 o Fangor. Bydd hyn yn gorfodi cymudwyr i newid trenau yng Nghyffordd Llandudno, lle y bydd yn rhaid iddynt aros am fwy nag awr am drên cyswllt. 

Mae canslo'r gwasanaeth trên hwn yn mynd yn hollol groes i bolisi Llywodraeth Cymru ar sawl cyfrif: 

1) Bydd yn arwain at fwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy orfodi pobl oddi ar drafnidiaeth gyhoeddus i'w ceir, ar adeg o “argyfwng hinsawdd”. 

2) Bydd yn gwrthod mynediad i Brifysgol Bangor i’r rhai sy'n byw mewn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. 

Felly, rydym yn galw ar y Cynulliad i orfodi TrC i ailystyried a sicrhau bod y gwasanaeth trenau yng Ngogledd Cymru yn ddigon aml a fforddiadwy i annog cymudwyr i ddod oddi ar y ffyrdd ac ar y trenau.

Cefndir

Yn ystod haf 2018 dyfarnodd Llywodraeth Cymru gontract 15 mlynedd i gyflwyno masnachfraint rheilffordd Cymru a’r Gororau i KeolisAmey, sy’n masnachu fel Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Rheolir y fasnachfraint ar ran Llywodraeth Cymru gan ei chorff darparu trafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru (TrC).  Dechreuodd Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC weithredu gwasanaethau rheilffordd Cymru a'r Gororau ym mis Hydref 2018.

Mae amserlenni National Rail ym Mhrydain yn newidddwywaith y flwyddyn, bob mis Mai a mis Rhagfyr.  Daeth y newid diweddaraf i’r amserlen i rym ddydd Sul 15 Rhagfyr 2019.  Mae gwefan Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC yn cynnwys manylion y newidiadau i’r amserlen a wnaed gan y gweithredwr ym mis Rhagfyr 2019.  Mae’r rhain yn dangos bod gwasanaethau Caerdydd i Gaergybi ymhlith y “rhai sy’n cael eu heffeithio”. O ran “newid amseroedd trenau”, mae'r wefan yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:[MA(CyC|AC1] [MA(CyC|AC2] 

Pam mae'r gwasanaethau rhwng Caerdydd a Chaergybi wedi cael eu heffeithio cymaint gan y newid hwn i'r amserlen?

Ynghyd â'r angen i ddelio ag ail-amseru gwasanaethau de Cymru i Lundain, rydyn ni hefyd wedi gorfod addasu amserlen y llwybr hwn. Yn nechrau 2020, bydd y trên a'r cerbydau sy’n cael eu tynnu gan y locomotif "Gerald" (heb y cyfleusterau bwyta dosbarth cyntaf) yn rhedeg gwasanaethau ychwanegol ar y llwybr hwn. Mae gan y trên hwn ofynion gwahanol a does dim modd iddo aros ym mhob gorsaf ar y llwybr os yw'r platfform yn rhy fyr. Mae hyn wedi arwain at batrymau galw gwahanol i rai gwasanaethau ar y llwybr hwn. Hefyd, mae ein contract yn datgan bod yn rhaid i ni gynnig gwasanaethau cyflymach rhwng gogledd a de Cymru.

Pam mae'n rhaid i mi aros yn hirach am fy ngwasanaeth cysylltu?

Mae cynllunwyr ein hamserlen wedi gwneud eu gorau i gadw cysylltiadau yn y gwasanaeth lle bo hynny'n bosib. Ond, mewn rhai achosion, mae'n bosib na fydd y gwasanaethau'n rhyng-gysylltu'n ddidrafferth yn enwedig gan fod amseroedd trenau gweithredwyr trenau eraill yn newid hefyd.

Cyflwynwyd newidiadau i’r gwasanaethau rhwng Caergybi a Chaerdydd i baratoi ar gyfer cyflwyno Trenau Marc 4 a Dynnir gan Locomotif pan fyddant yn dechrau gwasanaethu.  Cafodd y gwasanaeth 17.16 i'r de o Fangor ei ail-amseru a thynnwyd rhai arosfannau. Roedd y gwasanaeth 17.16 o Fangor yn arfer galw yng Nghyffordd Llandudno, Bae Colwyn, y Rhyl, Prestatyn a'r Fflint cyn Caer.  Erbyn hyn, mae wedi’i ddisodli gan wasanaeth 17.18 sy’n galw yng Nghyffordd Llandudno yn unig, ac yna Caer.

Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae’r llythyr dyddiedig 13 Chwefror 2020 gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i’r Cadeirydd yn ymateb i’r ddeiseb hon yn crynhoi safbwynt Llywodraeth Cymru.  Dywed y Gweinidog ei fod ef a TrC yn “cydnabod” bod y newid i’r amserlen ym mis Rhagfyr, a gyflwynodd y llwybr cyflym rhwng y gogledd a’r de wedi codi pryderon ymysg teithwyr.  Mae'n nodi bod y gwaith o ddatblygu amserlenni yn waith heriol iawn a bod “nifer o ffactorau” i'w hystyried i ganiatáu ar gyfer y llwybr cyflym y mae mawr ei angen.

Aeth y Gweinidog yn ei flaen:

Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno gwasanaethau cyflymach rhwng Caergybi a Chaerdydd bob dydd o'r wythnos erbyn mis Rhagfyr 2019. Byddai trenau modern a mwy cyfforddus yn cael eu defnyddio ar gyfer y gwasanaethau hyn. Mae hyn wedi arwain at newid amseroedd trenau eraill a newidiadau i batrymau galw gwasanaethau ar hyd rhwydwaith Cymru a'r Gororau. Canlyniad hyn yw bod yn rhaid i rai teithwyr bellach ddefnyddio gwasanaethau eraill ar gyfer cyrraedd rhai lleoliadau.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid a gwrando ar deithwyr, gan geisio defnyddio'r adborth gwerthfawr y maent yn ei dderbyn er mwyn parhau i wella a ffurfio eu cynlluniau ar gyfer y rheilffyrdd. Bydd ein harnserlenni a'n gwasanaethau cysylltu yn cael eu hystyried yn rhan o'r gwaith yma.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Er nad yw'n cyfeirio at y gwasanaethau penodol o Fangor a nodwyd gan y deisebydd, yn y Cyfarfod Llawn ym mis Ionawr 2020 gofynnodd Rhun ap Iorwerth AC i’r Gweinidog wneud datganiad “am effaith y newid diweddar yn yr amserlenni tren ar orsafoedd llai”.  Mae ymateb y Gweinidog, a'r drafodaeth ddilynol, wedi’u cynnwys isod:[MA(CyC|AC3] 

Ken Skates AC:Newidiadau amserlen mis Rhagfyr oedd y newid mwyaf i wasanaethau ers dros dri degawd. Mae hyn wedi bod o fudd i rai defnyddwyr rheilffyrdd, tra bo gwasanaethau eraill, yn anffodus, wedi cael eu heffeithio. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ceisio cyflwyno mesurau amgen lle effeithiwyd ar wasanaethau, ac maent yn adolygu posibiliadau pellach ar gyfer diwygio'r amserlen fel rhan o newidiadau amserlen mis Mai.

Rhun ap Iorwerth AC: Mae hwn yn achos o gwestiwn yn cael ei ateb cyn i mi gael ei ofyn o ar lafar, ond mae yna faterion pwysig sydd yn dal angen eu trafod. Mi wnaeth nifer o etholwyr gysylltu efo fi yn dilyn newidiadau amserlenni yn siomedig bod gwasanaethau i orsafoedd llai Môn—Fali, Rhosneigr, Tŷ Croes, Bodorgan a Llanfairpwll—wedi cael eu lleihau. Oes, mae eisiau gwasanaethau cyflym, ond mae angen gwasanaethu ein cymunedau ni hefyd.

 Dwi yn falch bod Trafnidiaeth Cymru wedi dod yn ôl ataf i rŵan, ers i mi gyflwyno'r cwestiwn yma, i ddweud bod yna newidiadau wedi cael eu gwneud i amserlenni sydd yn bodloni nifer o'r cwynion a gafodd eu gwneud. Wedi dweud hynny, mae yna sawl bryder o hyd ynglŷn ag argaeledd trenau i orsafoedd llai ar ddiwedd y diwrnod ysgol ac yn y blaen. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyfaddef i mi, 'Na, wnaethon ni ddim efallai ymgynghori digon efo'r cymunedau wrth wneud y penderfyniadau', a dwi'n meddwl bod y pryderon eraill yma ynglŷn â threnau diwedd y dydd yn enghraifft arall o rywbeth fyddai wedi cael ei fflagio i fyny pe bai ymgynghori iawn wedi cael ei wneud. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod yn rhaid cael ymrwymiad i ymgynghori yn ofalus iawn efo cymunedau ynglŷn â sut mae newidiadau arfaethedig yn mynd i effeithio arnyn nhw?

Ken Skates AC:Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac mae ymgynghori priodol yn rhywbeth rwyf wedi'i godi gyda Trafnidiaeth Cymru wrth inni nesáu at newidiadau amserlen mis Mai. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod grwpiau rhanddeiliaid, a chymunedau, yn cael eu hysbysu ymhell cyn y newidiadau arfaethedig fel y gallant gyfrannu rhywfaint o fewnbwn i weld a yw'r newidiadau hynny'n fuddiol ai peidio. Ceir rhwymedigaeth gytundebol, wrth gwrs, i sicrhau nad yw gorsafoedd yn cael llai o wasanaethau nag a oedd ganddynt pan gafodd y fasnachfraint ei gosod, ac mae'n rhaid cynnal y rhwymedigaeth honno, a dyna'r rheswm pam fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio i bennu gwasanaethau amgen hyd at fis Mai, pan eir i'r afael â'r gwasanaethau a dynnwyd yn ôl o rai o'r gorsafoedd llai o faint.


 [MA(CyC|AC1]English only

 [MA(CyC|AC2]https://trctrenau.cymru/cy/december-2019

 

 [MA(CyC|AC3]Bilingual transcript